Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (230)v3 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3 Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014 (15 munud) NDM5620 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2014.
Dogfennau
Ategol Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – dim pwyntiau adrodd
|
4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth - darpariaethau sy'n ymwneud â chymorth allforio (15 munud) NDM5617 Edwina Hart (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud â chymorth allforio, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes
|
5 Dadl: Cyllideb Ddrafft 2015-16 (120 munud) NDM5619 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-2016 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 30 Medi 2014.
Mae Cynigion Cyllideb Ddrafft 2015-16 ar gael ar y linc a ganlen : http://wales.gov.uk/funding/budget/draft-budget-2015-16/?lang=cy
Dogfennau
Ategol
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015/16 yn diwallu anghenion pobl Cymru.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod:
a) y Gyllideb Ddrafft yn methu ag ymgymryd â dull gweithredu Cymru gyfan mewn perthynas â buddsoddi cyfalaf at y dyfodol;
b) y symiau a fuddsoddir mewn mesurau integreiddio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael eu torri, ac y bydd hyn yn arwain at fwy o bwysau ariannol ar y GIG yn y dyfodol;
c) dull gweithredu annoeth mewn perthynas â buddsoddi mewn sgiliau wedi arwain at ostyngiad yn nifer y prentisiaethau sydd ar gael, a gallai hyn arwain at ddirywiad pellach mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc.
|
6 Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2013-14 (60 munud) NDM5618 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2013-14.
Gellir gweld Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2013-14 drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.complantcymru.org.uk/cy/adroddiad-blynyddol-2014/
|
7 Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 19 Tachwedd 2014